Nod y Prosiect

Ein henwau ni yw VJ a Lillie. Rydyn ni’n entrepreneuriaid cymdeithasol, yn famau, mentoriaid, a gwneuthurwyr newid, sy'n datblygu; rydyn ni’n rhannu’r un genhadaeth, sef pontio'r bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl Niwroamrywiol ac anabl. 

Gan ddefnyddio ein profiadau bywyd ein hunain o'r rhwystrau a'r heriau rydyn ni’n hunain, ein ffrindiau a’n teuluoedd yn parhau i’w hwynebu'n ddyddiol fel pobl Niwroamrywiol (Niwrodivergent folx), y profiadau hynny o geisio llywio systemau a phrosesau nad ydynt wedi'u cynllunio ar ein cyfer, ein cenhadaeth yw egluro, di-stigamteiddio a dangos y potensial anhygoel sydd heb ei gyffwrdd yn y gymuned niwroamrywiol sydd wedi'i thangyflogi'n gronig; gydag 80% o oedolion awtistig yn y DU yn ddi-waith a phrinder sgiliau ar draws pob sector, nawr yw’r amser ar gyfer dulliau newydd radical a newidiadau cymdeithasol seismig mewn agweddau at wahaniaeth.

Yr ydym am gael chwarae teg i bawb; gan agor cyfleoedd i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau o ran mynediad ar hyn o bryd, gyda phrofiad gwaith anhraddodiadol, bylchau mewn cyflogaeth, neu anawsterau cyfathrebu sy'n eu hatal rhag cael troed yn y drws.

Rydym wedi bod yn gweithio ar waith ymchwil a datblygu ar gyfer adnodd niwro-gynhwysol a hygyrch, gan greu dogfennau mynediad amlgyfrwng sy'n galluogi defnyddwyr i siarad am eu cryfderau a'u sgiliau, defnyddio eu 'lleisiau' awthentig i gyfleu beth yw eu hanghenion a helpu busnesau i fod â'r adnoddau gorau posib, i ddiwallu’r anghenion hyn o'u rhyngweithiadau cyntaf.