Nod y Prosiect

Yn Green Wing rydym yn gwneud cynhyrchu cyfryngau mor gynaliadwy â phosibl ledled Cymru. Trwy Little Bird Films, gobeithiwn y bydd pob cynhyrchiad yng Nghymru yn dod atom er mwyn helpu i leihau eu heffaith amgylcheddol fel man galw cyntaf ac nid yn rhywbeth i’w ystyried maes o law. 

Rydym yn datblygu math newydd o wasanaeth ymgynghori cynaliadwy i fusnesau sydd yng nghadwyn cyflenwyr y cyfryngau yng Nghymru, yn ogystal ag o fewn chynyrchiadau. Bydd y gwasanaeth arloesol hwn yn targedu allyriadau carbon ar y ddau ben trwy fynd i'r afael ag allyriadau cynhyrchu uniongyrchol ac anuniongyrchol. Rydym yn delio'n uniongyrchol â chyflenwyr y cyfryngau er mwyn ymgysylltu â strategaethau datblygu cynaliadwy, yn ogystal â chynnig gwasanaeth ymgynghori ar y set ar gyfer cynyrchiadau. Trwy gymryd ymagwedd gynhwysfawr a mynd ati i gefnogi a chysylltu cyflenwyr gwyrdd gyda chynyrchiadau, y gwasanaeth ymgynghori hwn fydd y cyntaf yng Nghymru a gallai drawsnewid pa mor gynaliadwy yw’r diwydiant.