Nod y Prosiect

Bydd 73 Degree Films yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu i edrych ar ddefnyddiau amlswyddogaeth posibl fideo fertigol. Bydd y prosiect yn ystyried sut y gall fideo fertigol gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr ffilmiau a sefydliadau i adrodd straeon mewn ffyrdd newydd a chyffrous, ar-lein ac all-lein. Gan estyn i blatfformau cyfryngau cymdeithasol all ddefnyddio fideo fertigol, bydd y prosiect hwn yn ceisio canfod yn lle arall y gall cynnwys fertigol gael ei ddefnyddio a’r effaith y gallai ei chael ar ddyfodol cynhyrchu ffilm a fideo yng Nghymru a ledled y byd.

Bydd 73 Degree Films yn gwneud rhagor o ymchwil i sut i wneud fideos fertigol yn amlswyddogaethol drwy ddatblygu platfform newydd sy’n ceisio grymuso crewyr. Bydd y prosiect yn ymchwilio i'r defnydd o dechnoleg contract clyfar blockchain i greu cymhwysiad trawsnewidiol.

Rob Corcoran headshot