Nod y Prosiect

Disgwylir i'r economi gig fyd-eang fwy na dyblu erbyn 2023 i $455 biliwn USD. Ac eto yng Nghymru, roedd mwy na 70% o weithwyr llawrydd creadigol yn cael anhawster wrth iddyn nhw ddeall Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth Llywodraeth Cymru (SEISS) a chael mynediad ato gan nad oedd y ddarpariaeth wedi'i diffinio'n dda ar gyfer gyrfaoedd llawrydd a phortffolio. At hynny, mae Tasglu Llawrydd Cymru wedi nodi bod graddedigion, gweithwyr gyrfa gynnar, a rhieni/gofalwyr ymhlith yr unigolion y mae angen cymorth gyrfaol arnyn nhw fwyaf. Nod ein Platfform Gyrfaoedd Creadigol yw ymgysylltu â gweithwyr llawrydd newydd, y rhai sy'n dychwelyd a’r rhai sy'n gynnar yn eu gyrfa, yn ogystal â’u hysbrydoli a rhoi’r newyddion diweddaraf iddyn nhw o hyd; gan eu helpu i feithrin hyder a magu eu cysylltiadau a'u galluoedd proffesiynol.

 

 

 

Iungo team composite