Nod y Prosiect
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r dathliad mwyaf o ddiwylliant Cymraeg yn y byd, a’r ŵyl gystadleuol cerddoriaeth a barddoniaeth fwyaf yn Ewrop. Nod y prosiect fydd ceisio ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg i ddod â’r Eisteddfod yn fyw i gynulleidfaoedd newydd ym mhedwar ban byd. Bydd y prosiect egino’n ystyried creu platfform ar-lein arloesol sy’n brolio goreuon barddoniaeth, cerddoriaeth, llên a chelf Gymraeg, gan gynnig ffyrdd newydd o ddod â chymunedau ynghyd i fwynhau diwylliant Cymru.
