Nod y Prosiect
Enwebwyd Focus Shift Films am Wobr BAFTA Cymru. Mae gan y cwmni hanes am greu cynnwys digidol deniadol a chynnig llwyfannau i gynulleidfaoedd na wasanaethir yn ddigonol a lleisiau newydd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r cwmni wedi ehangu ei orwelion ac mae'n datblygu ystod o brosiectau ar raddfa fwy sy'n adeiladu ar y natur aflonyddgar honno. Daniel J. Harris yw'r cynhyrchydd â ffocws masnachol sy'n gyrru'r cwmni i gyfeiriadau newydd gyda phartneriaid ledled y DU, UDA, Ewrop ac Awstralia.
Mae Viewfinder ar gyfer Chwaraeon yn gydweithrediad rhwng Focus Shift Films a Viewpark. Gyda'n gilydd byddwn yn ymchwilio os yw'n bosibl cyfuno treftadaeth chwaraeon, twristiaeth a phrofiadau AR / VR i ddatblygu cynnwys unigryw sy'n ymgysylltu â'r farchnad twristiaeth chwaraeon. Bydd Viewfinder for Sport yn cyfuno technolegau digidol presennol i greu profiadau unigryw, sbardunol a gemaidd sy'n gysylltiedig ag etifeddiaeth digwyddiadau chwaraeon, lleoliadau chwaraeon a phrosiectau cysylltiedig â chwaraeon yng Nghymru (a thu hwnt) i gynyddu twristiaeth.