Nod y Prosiect

Mae Y Pob yn brosiect newyddiaduraeth sain ac yn bodlediad ieithoedd lleiafrifol sydd am greu gwasanaeth sy’n economaidd-gynaliadwy i ieithoedd nas cefnogir gan y prif ddarparwyr podlediadau. Gyda thros filiwn o bodlediadau yn Apple Podcasts yn unig, mae dod o hyd i newyddion a newyddiaduraeth sain mewn ieithoedd lleiafrifol mewn gwasanaethau podlediad eisoes yn heriol os nad oes modd hidlo’n ôl iaith. Gan ddefnyddio’r Gymraeg fel astudiaeth achos nod y prosiect yw ei gwneud yn haws canfod newyddiaduraeth sain a newyddion yn y Gymraeg drwy ystod o atebion a chynhyrchion arloesol.

Aled Jones headshot