Mae Clwstwr wedi cyhoeddi 33 o brosiectau arloesedd newydd fel rhan o garfan 2020. 

Bydd y garfan ddiweddaraf o bobl greadigol yn mynd i’r afael â set amrywiol o heriau - profi technegau fideo fertigol, archwilio ffurfiau o rith-gynhyrchu a gwella’r defnydd o ynni yn y diwydiannau sgrin.

Mae gwaith yn cael ei wneud hefyd i wneud newyddion yn fwy hwylus i gynulleidfaoedd ehangach – gan gynnwys plant, pobl amryfal eu nodweddion niwrolegol a'r rhai sy'n siarad ieithoedd lleiafrifol. Mae prosiectau buddugol hefyd yn ymwneud â sectorau gan gynnwys gofal iechyd, trafnidiaeth a thwristiaeth.

Mae Wales Interactive, cyfleuster AV Dragon Digital ac asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus teledu IJPR Cymru ymhlith y cwmnïau sydd ar fin treialu eu syniadau. Mae Theatr Hijinx, yr Eisteddfod Genedlaethol, Llenyddiaeth Cymru a'r cerddor Gruff Rhys hefyd yn derbynwyr.

Yn ogystal, bydd 10 gweithiwr llawrydd yn cael cefnogaeth i ddatblygu arloesiadau yn cynnwys profiadau celf rhithwir, taith gerdded treftadaeth ddigidol, drama ffurf-micro ar y cyfryngau cymdeithasol a phlatfform codi arian gêm fideo.

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr y Clwstwr: "Mae'n gyffrous cael cyfle i helpu i wireddu'r fath amrywiaeth o syniadau, a buddsoddi yn y fath amrywiaeth o dalentau. "Mae gennym ni gwmnïau o feysydd ffilm a theledu, gemau, technoleg drochol, newyddiaduraeth, y theatr, gwyliau, ynni gwyrdd, gofal iechyd, cerddoriaeth, celf weledol a llawer o sectorau creadigol eraill yn dod at ei gilydd gan rannu uchelgais i wneud Cymru'n arweinydd o ran arloesedd cyfryngol.

“Wrth i’r diwydiannau creadigol geisio cryfhau ar ôl Covid-19, bydd arloesedd o’r fath yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol cadarnhaol i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."

Mae'r cynhyrchydd, cyfarwyddwr ac awdur Rebecca Hardy yn rhan o garfan 2020. Mae ei phrosiect, Reel Reality yn datblygu platfform symudol difyr i rannu cynnwys sgrîn a mapio lleoliadau ffilm a theledu. 

Dywedodd Rebecca, a dderbyniodd arian sbarduno gan Clwstwr yn gynharach yn y flwyddyn i ddatblygu ei syniad yn brosiect: “Mae’r gefnogaeth trwy Clwstwr hyd yn hyn wedi bod yn rhagorol - nid yn unig y mae wedi fy ngalluogi i ddatblygu Reel Reality, mae hefyd wedi cefnogi fy musnes a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae cydnabod fy syniadau a fy ngalluoedd fel hyn yn help mawr i godi fy ngwaith i lefel newydd. Rydw i wedi gallu sefydlu cwmni cyfyngedig a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu profiadau trochol ac apiau yn ogystal â meithrin fy ngwaith ffilm a'r allfeydd creadigol hyn."

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant: "Mae ein buddsoddiad sylweddol yn Clwstwr yn dangos yr hyder sydd gennym yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, sy'n prysur ddatblygu’n ganolbwynt i greadigrwydd yn y DU. Gyda lwc, gall y garfan newydd hon o brosiectau ddatblygu i fod yn ganolbwynt ar gyfer arloesedd creadigol yn y ddinas ac, yn ei thro, arwain at lwyddiannau masnachol newydd.

"Nawr, ac yn y dyfodol, bydd y diwydiannau creadigol yn sbardun economaidd-gymdeithasol hollbwysig wrth i ni geisio gwthio Cymru y tu hwnt i egin gwyrdd y ffyniant a welsom cyn y pandemig."

Ariennir Clwstwr trwy Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol ac mae’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

Ewch i'n tudalen prosiectau i wybod mwy am y 33 prosiect.