Cyfres o sesiynau rhannu ar-lein yw Cipolygon Clwstwr lle bydd aelodau o garfan Clwstwr yn rhannu dealltwriaeth a gwersi maen nhw wedi'u casglu o'u prosiectau ymchwil a datblygu ar y sgrin hyd yn hyn.

Hyd yn hyn, rydym wedi clywed gan brosiectau sy'n archwilio Deallusrwydd Artiffisial yn yr Ystafell Newyddion ac Adrodd y Newyddion drwy newyddiaduraeth fodiwlaidd

Ddydd Mawrth, 16 Chwefror 2021 am 3pm byddwn yn croesawu Hana Lewis i siarad am brosiect Clwstwr Canolfan Ffilm Cymru, Gwnaethpwyd yng Nghymru. Bydd hi'n sgwrsio gyda Chynhyrchydd Clwstwr, Sally Griffith.

Uchelgais Canolfan Ffilm Cymru yw y bydd ffilmiau o Gymru yn sefyll ochr yn ochr â ffilmiau annibynnol a thramor o safon yn fyd-eang. Fuon nhw’n ymchwilio i sut y gallai brand hawdd ei adnabod i Ffilm Cymru helpu i ddathlu talentau Cymru ac annog cynulleidfaoedd a'r diwydiant yn fyd-eang i ymgysylltu â chynnwys sgrin ein cenedl. 

Gan weithio gyda'r sector yng Nghymru/y DU a chyfweld â chenhedloedd eraill fel Sweden, Canada ac Iwerddon am eu hagweddau nhw, canfu eu hymchwil y cyfleoedd a’r rhwystrau o ran datblygu brand ar gyfer cynnwys sgrin o Gymru. 

Gallwch ddarllen ymchwil Gwnaethpwyd yng Nghymru yma. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am sut y datblygodd eu prosiect Clwstwr yma

Yn y digwyddiad hwn, byddwn yn trafod y canlynol:

1.    Ystyr ‘Ffilmiau o Gymru’

2.    Manteision sector sgrin gref yng Nghymru

3.    Yr heriau o hyrwyddo 'Ffilmiau o Gymru'

4.    Yr hyn y gallwn ei ddysgu o'r modd y mae cenhedloedd eraill yn dathlu eu cynnwys cenedlaethol

Cynhelir y sesiwn hon ar Zoom. Cofrestrwch ymlaen llaw yma: https://cardiff.zoom.us/webinar/register/WN_K-N4OfP6QuOVX8HGOQBXfg

Os oes gennych unrhyw ofynion o ran hygyrchedd, ebostiwch clwstwrcreadigol@caerdydd.ac.uk.