Nod y Prosiect
Nod Canolfan Ffilm Cymru yw dathlu'r grefft o adrodd straeon ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Eu nod yw y bydd ffilmiau o Gymru yn sefyll ochr yn ochr â ffilmiau annibynnol a thramor o safon ar draws y byd. Gan adeiladu ar eu strategaeth Gwnaed yng Nghymru, ac ar y cyd â dros 25 o bartneriaid sgrîn yng Nghymru, byddant yn ymchwilio i ac yn datblygu'r ffyrdd gorau o gyflwyno neges glir ar gyfer y genhedlaeth ddigidol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o gynnwys sgrîn o Gymru, a'i wneud yn fwy deniadol.
Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn rhan o rwydwaith DU gyfan a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) i ffurfio Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), ac mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yn Nghymru.
Gwyliwch Hana Lewis yn siarad gyda Chynhyrchydd Clwstwr, Sally Griffith, am brosiect Clwstwr Canolfan Ffilm Cymru, Gwnaethpwyd yng Nghymru.