Nod y Prosiect
Dewch i wybod mwy am brosiect Yello Brick - Adrodd Straeon yn Dameidiog, wedi'u Geoleoli - yn y fideo byr hwn sy'n cynnwys Allie John.

Mae prosiect Yello Brick yn hybrid rhwng ffilm, teledu, theatr a gemau realiti amgen a bydd yn ymchwilio ac yn datblygu ffyrdd newydd o adrodd straeon mewn mannau ffisegol a digidol. Yn benodol, creu naratifau darniog sy'n galluogi cynulleidfaoedd i gael rhan ym mhrofiad y stori. Mae gan Yello Brick ddiddordeb mewn herio fformatau traddodiadol a datblygu rhai newydd; archwilio beth yw ffiniau'r cysyniad hwn; pa dechnolegau sy'n bodoli i hwyluso'r profiad hwn a sut mae pobl yn ei ddefnyddio.