Gwybodaeth am Yello Brick
Asiantaeth farchnata greadigol sy’n wahanol yw Yello Brick. Mae’n canolbwyntio ar adeiladu profiadau cyfranogi rhyngweithiol i frandiau a sefydliadau sydd eisiau adrodd eu storïau i gynulleidfaoedd mewn ffyrdd chwareus.
Ganwyd Yello Brick o angerdd am chwarae gemau
Cyn Yello Brick, roeddwn i’n rhan o grŵp bychan o bobl greadigol a arferai gwrdd a chreu gemau stryd yn ein hamser ein hunain. Yn y gemau hyn, byddai pobl yn mynd i leoliadau trefol i ryngweithio â bydoedd stori mewn grwpiau bach. Sefydlwyd Yello Brick yn 2012 pan ddechreuodd pobl ofyn i ni wneud gemau stryd iddyn nhw. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi llunio’r hyn rydym yn ei wneud nawr, sef, yn y bôn, adrodd storïau. Rydym yn gweithio o gwmpas yr ymdeimlad hwnnw o gysylltu â chynulleidfaoedd ac yn gadael i gynulleidfaoedd gael rhyw fath o ddylanwad mewn profiad.
Rydym yn aml yn ein galw ein hunain yn ‘sefyllfäwyr’
Rydym yn gosod pobl mewn sefyllfaoedd sydd wedi’u llunio’n ofalus (naill ai rhai corfforol, digidol neu gyfuniad o’r ddau) y gallant ymateb iddynt fel nhw eu hunain er mwyn adrodd stori. Er bod ein gwaith yn ymddangos yn eithaf arbenigol flynyddoedd yn ôl, mae rhagor o bobl yn gweithio yn y maes hwn a’r economi profiadau nawr, ac mae pobl yn gweld ei werth. Rydym yn rhan o’r duedd o roi profiad yn hytrach na chynnyrch.
Arian sy’n llywio ein creadigrwydd
Mae gennym ddiddordeb yn y ffyrdd mwy soffistigedig y gallwn ddefnyddio technoleg i’n helpu i greu’r pethau sydd gennym yn ein pennau. Mae gennym syniadau ond rydym yn meddwl tybed sut gallen ni eu gwireddu, yn enwedig gan mai hyn a hyn o arian sydd gennym i weithio gydag ef yn aml. Gyda llawer o’n prosiectau, rydym wedi gorfod cyfaddawdu’n enfawr o ran uchelgais a maint.
Ers amser maith, rydym eisiau adeiladu rhywbeth a fyddai’n gadael inni dorri ein costau; rydym bob amser yn dechrau o’r dechrau’n deg, felly petai gennym fodel templed byddai’n ein helpu i gyflwyno cynnwys yn gynt. Roeddem eisiau gwneud model cynaliadwy y gallem ei werthu fel cynnyrch neu ei ddefnyddio ein hunain yn ein prosiectau ein hunain i ehangu ein cynulleidfa ac i ymgysylltu ymhellach.
Gofynnon ni i Clwstwr am gyllid Prosiect i adeiladu technoleg
Rydym eisiau mynd â’n gwaith ymhellach, a’r ffordd rydym yn credu y gallwn wneud hynny yw gyda mecanwaith y gallwn ei ddefnyddio i gyflwyno cynnwys digidol mewn unrhyw ddinas ac mewn unrhyw le. Gofynnon ni am £50k i adeiladu fersiwn ddigidol o’n profiadau gemau stryd. Byddai’n golygu defnyddio technoleg hollbresennol a deallus, gan ddod â data i mewn i greu naratif mwy cyfoethog. Er enghraifft, gallem gasglu data tywydd o leoliad y chwaraewr a theilwra’r gêm i amgylchiadau unigol y person hwnnw.
Dychmygwch gymysgedd o fod yn eich holl lyfr neu ffilm neu gêm realiti amgen – mae’n gymysgedd o’r holl bethau hynny sy’n rhoi profiad hynod gyfoethog i rywun yn y bôn, naill ai dros gyfnod penodol o amser neu fel byd stori diddiwedd i ymgysylltu ag ef. Roedd yr arian yr oeddem yn gofyn amdano at adeiladu’r mecanwaith digidol hwnnw, ond wyddem ni ddim beth fyddai tan inni ddechrau ymchwil a datblygu.
Roedd Clwstwr eisiau i ni brofi llwybr i’r farchnad, felly cynigion nhw gyllid Sbarduno i ni wneud hynny
Ar y dechrau roeddem yn rhwystredig nad oeddem wedi derbyn y cyllid llawn yr oedd ei angen arnom i ddechrau gwneud pethau; pobl ymarferol ydyn ni ac rydym yn hoffi dysgu wrth fynd yn ein blaenau. Fodd bynnag, mae cyllid Clwstwr wedi rhoi amser i ni fireinio ein cysyniad, mapio sut gallai’r adeiladu fod a dod o hyd i lwybrau posibl i’r farchnad. Gwnaethom lwyth o ymchwil desg i’r man lle byddai ein syniad yn eistedd, i ble gallem ei werthu ac a oes galw amdano.
Roedd y cam cyntaf o fireinio, llunio ac ystyried yn
rhan hynod bwysig o’r broses.
Erbyn hyn rydym yn gwybod pa fath o swyddogaethau yr ydym eu heisiau
Mae pobl yn gwylio mwy o gynnwys ar ffurf fer na chynnwys ar ffurf hir ar eu ffonau symudol, felly bydd arnom angen cynnwys ffurf fer a darnau o naratif. Gallwn adrodd storïau mewn clipiau gwirioneddol fyr o naill ai fideo, ffilm, sain neu bethau corfforol ac ymarferol y gallem ofyn i chwaraewyr eu gwneud. Mae’n fater o holi ‘sut gallwn wneud i bobl fwynhau’r profiad hwn ac ymgolli ynddo i’r eithaf?’
Hefyd, rydym wedi ystyrid sut gallwn gadw rhai elfennau byw o hyd; mae pobl yn ysu am y llawenydd hwnnw o berson yn rhyngweithio â nhw. Edrychon ni ar sut gallai actorion recordio cynnwys ymlaen llaw i ni, ond hefyd sut gallent siarad â phobl yn llythrennol yn fyw ar y ffôn yn ystod y profiad.
Mae cynnwys elfennau byw yn ychwanegu dyfnder y tu hwnt i rywbeth sy’n brofiad gwastad yn y bôn. Dydyn ni ddim eisiau gwneud ap hela ysglyfaethwyr yn unig; rydym eisiau gwneud rhywbeth lle rydych chi bron yn cael eich gosod mewn ffilm yn eich amgylchedd ac mae’n ffitio o’ch cwmpas chi.
Rydym yn teimlo ein bod yn barod i’r cam nesaf: yr adeiladu
Wrth gwrs, mae’n dal i fod yn brosiect risg uchel, fel sy’n wir am unrhyw waith ymchwil a datblygu, ond yn yr astudiaeth dichonolrwydd rydym wedi cyflwyno achos gwirioneddol gryf dros pam byddai’n gweithio a sut rydym yn meddwl y byddai’n mynd rhagddo. Rydym yn gobeithio cyflwyno cais eilaidd am y swm gwreiddiol o arian y cynigion ni amdano’n gyntaf, tua £50k. Byddem yn ei ddefnyddio i wneud prototeip cyflym a bras iawn o’r hyn rydym yn ei ddychmygu. Efallai na fyddai’n edrych yn hardd, ond yn y bôn bydd yn ein galluogi i dreialu swyddogaeth sylfaenol yr hyn rydym yn siarad amdano. Wedyn, mae’n bosibl y byddem yn chwilio am ragor o fuddsoddiad wedi hynny i greu prototeip alffa a beta cyn ei adeiladu’n llawn. Mae ar y math hwn o raglennu a’r codio sydd y tu ôl iddo angen amser ac arian, yn ogystal â llawer o brofi prototeipiau.
Mae Clwstwr wedi rhoi rhywbeth inni na allai llawer iawn o fannau eraill yng Nghymru ei wneud
Mae’r cyllid y mae Clwstwr yn ei gynnig yn un o’r ychydig gronfeydd yng Nghymru sy’n cynnig arian i brosiectau profiadau neu arbrofol ac i bobl sy’n bwriadu gwneud rhywbeth newydd.
Mae’r prosiect hwn yn rhywbeth yr ydym yn sôn amdano ers tro byd, ond dydyn ni erioed wedi dod o hyd i gronfa yr ydym wedi bod yn gymwys i geisio amdani – tan i Clwstwr ein helpu ni. Rydym yn hynod ddiolchgar am yr amser a gawsom gyda’r arian a ddaeth oddi wrthyn nhw. Mae wedi bod yn hanfodol i ni, er mwyn i ni ddatblygu a thyfu.
Mwy am brosiect Clwstwr Yello Brick, Dweud Storïau’n Dameidiog, wedi’u Geoleoli.