Rydym yn datblygu partneriaethau’n rhyngwladol sy'n hwyluso cysylltu a chydweithio ac sy’n annog cydweithredu rhwng busnesau a phrifysgolion. Maent yn ein galluogi i rannu canlyniadau gwaith Clwstwr mewn cynadleddau a digwyddiadau byd-eang. 

Mae ein gwaith yn cefnogi gwerthoedd y Strategaeth Ryngwladol i Gymru gan Lywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dyma ein nodau:

  • Codi proffil rhyngwladol clwstwr cyfryngau de Cymru.
  • Cefnogi'r gwaith ymchwil a datblygu sy'n mynd rhagddo mewn partneriaeth â chydweithredwyr rhyngwladol.
  • Sefydlu ac ysbrydoli partneriaethau newydd
  • Annog mewnfuddsoddiad 
  • Nodi cyfleoedd newydd yn y farchnad a chyfleoedd newydd i allforio
  • Alinio'n agos â mentrau polisi allweddol

Ein gweithgaredd:

Hyd yn hyn rydym wedi ffurfio partneriaethau gyda:

Media City Bergen

Media City Bergen visit composite

Mae Clwstwr Cyfryngau Norwy yn arwain y byd mewn realiti estynedig, graffeg, deallusrwydd artiffisial, stiwdios rhithwir, fideo darlledu ac IP, roboteg ac offer ar gyfer llif gwaith ac adrodd straeon digidol.

Mae pencadlys Clwstwr y Cyfryngau yn Media City Bergen, canolbwynt rhyngwladol blaenllaw ar gyfer arloesi yn y cyfryngau a thechnoleg, gyda Labordy Cyfryngau a labordy busnesau newydd yn ffurfio craidd prosiectau arloesi ac ymchwil y clwstwr a phartneriaid y clwstwr.

Mae'r clwstwr yn cynnwys cyfanswm o dros 100 o gwmnïau, gydag wyth prif brifysgol a chyfleusterau ymchwil ymhlith ei aelodau. Mae Prifysgol Bergen yn bartner sefydlu Clwstwr y Cyfryngau. Mae'r Adran Gwyddor Gwybodaeth ac Astudiaethau Cyfryngau wedi'i chyd-leoli yn y Clwstwr gyda chwmnïau cyfryngau a thechnoleg cyfryngau blaenllaw.

Dywedodd Anne Jacobsen, Prif Swyddog Gweithredol, Media City Bergen:

“Ers i ni ymweld â Chaerdydd, rydyn ni wedi bod yn awyddus i sefydlu partneriaeth hirdymor gyda strwythur, oherwydd rydyn ni'n gweld llawer o synergeddau a meysydd diddordeb cyffredin rhwng y ddau glwstwr arloesi. Edrychwn ymlaen at gydweithio ar yr heriau a'r cyfleoedd yn niwydiant y cyfryngau ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddysgu oddi wrth ein chwaer glwstwr yng Nghymru." 

Gwyliwch lansiad ein partneriaeth, Arloesedd mewn Newyddion a Democratiaeth mewn Clystyrau Cyfryngau.

MFG, Baden Württemberg

MFG & Clwstwr partnership Zoom event composite

Sefydliad sy’n gysylltiedig â thalaith Baden-Württemberg a chorfforaeth ddarlledu Südwestrundfunk yw MFG Baden-Württemberg. Maent yn hyrwyddo diwylliant ffilm a'r diwydiant ffilm ac yn cefnogi diwydiannau diwylliannol a chreadigol yn ne-orllewin yr Almaen.

Hyrwyddwr diwylliannol ac economaidd cyhoeddus yw MFG, sy’n cynnig cymorth wedi'i deilwra i'r diwydiannau creadigol. Mae adran Kreativ MFG yn canolbwyntio ar weithgareddau rhwydweithio ar gyfer y diwydiannau diwylliannol a chreadigol ac ym maes diwylliant digidol.

Daw’r bartneriaeth yn ystod Blwyddyn Cymru yn yr Almaen – blwyddyn sy’n arddangos yr amrywiaeth o weithgareddau a mentrau cyfnewid yn yr Almaen ac yng Nghymru ar draws meysydd masnach, gwyddoniaeth ac arloesedd, diwylliant a'r celfyddydau, addysg, cynfyfyrwyr, twristiaeth, cysylltiadau dinesig, a datblygu cynaliadwy. 

Y Dr Dr Angela Frank, Pennaeth y Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol yn MFG Baden-Württemberg:

“Rydym yn edrych ymlaen at gysylltu artistiaid a chwmnïau o'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru a Baden-Württemberg drwy'r bartneriaeth. Rydym yn hyderus iawn bod potensial mawr ar gyfer cyfnewid syniadau arloesol a chydweithio’n gryfach mewn timau rhyngwladol ac amrywiol yn y dyfodol.” 

Watch our first joint event with MFG Baden-Württemberg below. Mark Drakeford, First Minister, welcomes the attendees to DANCE DIGITAL: Baden-Württemberg and South Wales Connect will explore the opportunities that digital innovation presents to dancers and hear their experiences of making work during COVID-19. 

YouTubewww.youtube.com
Hyd yma, mae Clwstwr wedi ymgysylltu â :
  • Prifysgol Bremen
  • Y Cyngor Prydeinig (y DU, Georgia, Malaysia a Thwrci)​

 

Composite of four visits between Clwstwr team members and teams from Turkey, Georgia and Malaysia

Clwstwr in Brussels

  • Clwstwr Cyfryngau Dulyn
  • Hamburg Kreativ Gesellschaft ​
  • Stars4Media, Prosiectau Brwsel/UE​
  • Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel

Os ydych chi'n gweithio yn y sectorau sgrîn a newyddion yn ne Cymru ac yn dymuno cael eich rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw un o'n partneriaid rhyngwladol, cysylltwch â ni ar bob cyfrif. Os ydych yn gweithio'n rhyngwladol a hoffech gydweithio â Clwstwr, cysylltwch â ni.

Prif Swyddog Gweithredu Clwstwr, Sara Pepper OBE, sy'n arwain y gwaith hwn. Meddai: 

"Credwn yn gryf fod cydweithredu’n rhyngwladol yn hanfodol i ddyfodol y sectorau sgrîn a newyddion, a byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd fwy deinamig drwy roi ystod amrywiol o arloeswyr creadigol mewn cysylltiad â’i gilydd i rannu gwybodaeth, tanio syniadau ac, yn y pen draw, ffurfio partneriaethau gwaith. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar draws ffiniau daearyddol, ffurfiau creadigol a sectorau.

"Rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n partneriaid ac ar gyfer busnesau a gweithwyr llawrydd yng nghlwstwr de Cymru."

Sara Pepper

Sara Pepper, Prif Swyddog Gweithredu