Cefnogodd Clwstwr ddatblygiad sector newyddion a sgrin teg i Gymru, un a oedd yn adlewyrchu ein cymunedau ar y sgrin ac oddi ar y sgrin. 

Roedd cynhwysiant yn un o werthoedd craidd Clwstwr ac rydym ni'n cydnabod bod amrywiaeth yn rhan annatod o ddatblygu syniadau gwirioneddol arloesol a thrawsnewidiol. Ein nod oedd meithrin diwylliant cynhwysol drwy alluogi mynediad teg a chyfartal i'n rhaglen, i bobl o bob cefndir cymdeithasol a diwylliannol. 

I gefnogi'r gwaith hwn, gwnaethom feithrin prosiectau cydweithredol gyda diwydiant, y byd academaidd a chymunedau i ysbrydoli ffrydiau ymchwil a datblygu unigryw, beiddgar a chynhwysol.   

Er mwyn gosod blaenoriaethau o ran y gefnogaeth y gwnaethom ei chynnig i'r sector, yr arbenigedd y gwnaethom weithio gydag ef, ynghyd â'r ffordd y gwnaethom roi gwybod am ein gwaith, gwnaethom gasglu a dadansoddi data am amrywiaeth ein tîm a'n prosiectau a ariannwyd. Gallwch chi ddarllen rhagor am hyn yn ein Hadroddiad Monitro Rhaglen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant cyntaf, Gwanwyn 2021.

Ein nodau oedd cefnogi gwaith ymchwil a datblygu ffyrdd arloesol a theg o weithio o fewn y sector sgrin a newyddion yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys: gwneud ein strwythurau a’n prosesau mor amrywiol a hygyrch â phosibl, annog ecosystem o ddiwydiant, y byd academaidd a’r trydydd sector, ysbrydoli a sefydlu partneriaethau a chydweithrediadau amrywiol a chynhwysol a chynyddu lleisiau’r rhai sy’n gweithio i wella amrywiaeth sector y cyfryngau yng Nghymru. 

Gwnaethom gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gysylltu, uwchsgilio ac ysbrydoli'r garfan sy'n derbyn cyllid ac i egluro beth yw ymchwil a datblygu i ddarpar ymgeiswyr newydd.

Arweiniodd Sally Griffith ar gynhwysiant ar ran Clwstwr, gyda Laolu Alatise, ein Swyddog Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

Sally Griffith

Sally Griffith, Cynhyrchydd

Head shot of Laolu

Laolu Alatise, Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant