Gweledigaeth Clwstwr oedd i Gymru ddod yn arweinydd wrth symud tuag at gynhyrchu cyfryngau gwyrdd.

Gwnaethom sbarduno syniadau arloesol ar gyfer lleihau ôl troed carbon ac effaith amgylcheddol is, gyda'r prosiectau rydym ni'n eu cyflawni, a gyda sector y cyfryngau ledled Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, gwnaethom annog ymagwedd draws-sector gyda diwydiant y cyfryngau, gan gynnwys seilwaith a’r gadwyn gyflenwi.

Ein nodau oedd cefnogi gwaith ymchwil a datblygu datrysiadau arloesol i leihau effaith amgylcheddol sector y cyfryngau. Gwnaethom hefyd annog a chefnogi ecosystem arloesol o gynaladwyedd yn sector y cyfryngau yng Nghymru, yn ystod cyfnod rhaglen Clwstwr a’r tu hwnt iddo. Ein nod oedd cydweithio ag eraill i greu cymuned sgrin â ffocws 'gwyrdd' ar draws y sectorau yng Nghymru, rhannu gwybodaeth newydd a chyfeirio sector y cyfryngau at ddatrysiadau cynaliadwy yn ogystal â sefydlu ac ysbrydoli partneriaethau a chydweithio.

Ein gweithgaredd:

Rhwng 2019 a 2021, roedd Clwstwr yn annog ceisiadau cyllido agored ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu arloesol sy'n canolbwyntio ar gynaladwyedd amgylcheddol, drwy gynnwys neu gynyrchiadau ar gyfer y sgrin.

  • Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddwyd bod Clwstwr yn bartner cyflawni yn ‘Screen New Deal: Transformation Plan’ Sefydliad Ffilmiau Prydain ac albert. Drwy’r cynllun hwn, mae Sefydliad Ffilmiau Prydain, albert ac Arup yn cydweithio â Creative Wales, Ffilm Cymru Wales a Clwstwr i hel a mapio data’n lleol. Bydd hyn yn eu galluogi i nodi gwasanaethau ffilm a theledu sy’n bodoli eisoes yn yr ardal, tynnu sylw at fylchau mewn gwasanaethau a symud y gwaith o baratoi cynllun trawsnewid sy’n seiliedig ar leoliadau yn ei flaen er mwyn datgarboneiddio cynyrchiadau teledu a ffilm. Mae rhagor o wybodaeth yn yr erthygl hon.
     
  • Ym mis Mehefin 2021, sicrhaodd Cronfa Her Cymru Werdd - partneriaeth gan Clwstwr a Ffilm Cymru - yn sicrhau bod £75,000 o gyllid ar gael i unigolion, sefydliadau a phrosiectau chydweithredol ar draws nifer o sectorau - gan gynnwys y cyfryngau, y byd academaidd, technoleg, cludiant, ynni, dŵr a rheoli gwastraff - i ymchwilio a datblygu ffyrdd cynaliadwy newydd o weithio ym myd ffilm a theledu. Rhagor o wybodaeth isod.

Prosiectau Cronfa Her Gwyrdd Cymru 

Net Zero - CAF teamshotDiwydiant Animeiddio Sero-Net

Hybrid Narrative: Dan arweiniad Chris Buxton.Chris Buxton headshot

Severn Screen TeamshotManteisio ar HavocSevern Screen

Cyhoeddiadau diweddar, adroddiadau a phethau o ddiddordeb:

Arweiniwyd y gwaith hwn gan Gynhyrchydd Clwstwr, Greg Mothersdale.

Greg's Headshot

Greg Mothersdale, Cynhyrchydd