ClwstwrVerse: Penllanw rhaglen Clwstwr.

ClwstwrVerse attendees gather to hear opening address in Marble Hall, Cardiff City Hall

Cynhaliwyd ClwstwrVerse ar ddydd Llun, 4 Gorffennaf a thaflodd y goleuni ar ddatblygiadau arloesol ym maes y cyfryngau yng Nghymru ac yn dathlu'r prosiectau, y cysylltiadau a'r datblygiadau drwy’r rhaglen.

Yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, gwahoddom ni gyfranogwyr i brofi a chael rhagor o wybodaeth am ymchwil a datblygiadau arloesol yn sector y sgrîn a’r newyddion.

CROESO: Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford 

Yr Athro Justin Lewis yn agor ClwstwrVerse yn swyddogol gyda neges gan y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd arloesedd yn y diwydiannau creadigol. 

 

ARDDANGOSFA: Arddangosfa Clwstwr

Roedd ein harddangosfa o brosiectau Clwstwr yn archwilio dyfodol adloniant a thechnoleg. Cafodd y gwaith sy'n cael ei wneud gan sector y cyfryngau i effeithio ar ein planed yn y dyfodol ac i hysbysu dinasyddion am y dyfodol ei arddangos hefyd.

Azize Naji of Goggleminds demonstrates his R&D using a VR headset

ARDDANGOSIAD: Cynhyrchu Rhithwir ar gyfer Comedi

Phillip Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr, Small and Clever Productions

Rhannodd Small and Clever Productions, cwmni cynhyrchu teledu o Gaerdydd, sut y bu iddynt ymchwilio i dechnoleg cynhyrchu rhithwir a datblygu ffyrdd o’i rhoi ar waith yn eu proses gynhyrchu. 

Phillip Moss of Small and Clever Productions presents at ClwstwrVerse infront of a green screen with camera and tv setup

CYFLWYNIAD: Ail-ddychmygu Newyddiaduraeth 

Sut allwn ni ailfeddwl am newyddiaduraeth er mwyn iddo adlewyrchu'r byd yn well, cynnig gwybodaeth fwy defnyddiol, meithrin ymddiriedaeth a’n helpu i fyw bywydau gwell? Yn y sesiwn hon, ymunodd newyddiadurwr, ymchwilydd a threfnydd cymunedol arobryn Shirish Kulkarn â chydweithwyr o BBC News Labs, EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru) a phrosiect Clwstwr Lewnah yn ogystal â’r Athro Justin Lewis a Sally Griffith o Clwstwr i nodi sut y maent wedi mynd i’r afael â'r cwestiynau sylfaenol hyn ar gyfer newyddiaduraeth a chymdeithas, trwy ail-ddychmygu sut a pham rydyn ni'n adrodd straeon.

Sally Griffith, David Caswell, Justin Lewis, Shirish Kulkarni, Tia-Zakura Camilleri, Hannah Vaughan-Jones on the Reimagining Journalism panel

CYFLWYNIAD: Cyn-gynhyrchu rhithwir

Yassmine Najime, Painting Practice

Rhannodd Painting Practice, stiwdio greadigol o Gaerdydd, sut y gwnaethant ymchwilio a datblygu eu hadnodd cynhyrchu ffilmiau rhithwir chwyldroadol, Plan V. Wedi breuddwydio tra'n gweithio ar Black Mirror, mae eu hategyn ‘Unreal Engine’ yn galluogi crewyr i rag-weld bydoedd . Mae gan Plan V fwy na 26,000 o ddefnyddwyr ac fe'i defnyddiwyd gan Painting Practice ar His Dark Materials i recordio o onglau gwahanol ar gyfer golygfeydd ymladd ac i adeiladu model rhithwir cydraniad uchel o dref ffuglennol.

Yassmine Najimi of Painting Practice presents Plan V on TV screen infront of green screen

CYFLWYNIAD: Ailddyfeisio Dulliau Cynhyrchu Animeiddio

Jon Rennie, Rheolwr Gyfarwyddwr, Animeiddio Cloth Cat

Datgelodd stiwdio animeiddio Caerdydd, Cloth Cat, sut y gwnaethant integreiddio technoleg peiriannau gemau ei gwneud yn rhan o’r broses gynhyrchu er mwyn gwella effeithlonrwydd a’r broses olygu.

Jon Rennie of Cloth Cat presents infront of big screen featuring animations
© Jonathan Cane

 

CYFLWYNIAD: ClwstwrVerse a'r Omniverse

Edrychodd Robin Moore, ymgynghorydd arloesi, i'r dyfodol yn yr archwiliad hwn o dueddiadau technoleg.

Robin Moore presents infront of a large screen featuring QR code

PRIF SIARADWR:

Trafododd Greg Reed, Is-lywydd Partneriaethau Technoleg ac Arloesedd Universal Pictures, am y We 3.0 a'r metaverse. 

Yna ymunwyd ag ef ar banel gan Susan Cummings, Rheolwr Gyfarwyddwr Tiny Rebel Games a Phrif Swyddog Gweithredol Rhwydwaith Petaverse, a Mike Wellings, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol EdenLab ynghylch potensial y technolegau hyn, yn cael ei hwyluso gan Dr Marlen Komorowski o Clwstwr.

Greg Reed presents at ClwstwrVerse infront of LED screen featuring Universal Pictures logo

ARBRAWF: Arbrofi Hissing Currents yn fyw gyda defnyddwyr

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae’r cerddor a’r perfformiwr Gruff Rhys wedi arbrofi ym maes sain ofodol ac estynedig mewn nifer o brosiectau. Gan weithio gyda Clwstwr a chael ei ysbrydoli’n rhannol gan yr her o greu amgylcheddau sonig anghysbell yn oes y pandemig a’r newid yn yr hinsawdd, mae Gruff wedi bod yn datblygu sioe gysyniadol newydd o’r enw Hissing Currents sydd wedi cynnwys technoleg newydd a ddatblygwyd gan y BBC – offeryn Cerddorfa Sain. Cynhaliodd Gruff arbrawf i weld pa mor bell y gellir gwthio’r dechnoleg benodol hon mewn digwyddiadau torfol trwy ychwanegu at ddarn o gerddoriaeth fyw gyda rhyngweithio sain sgrin gan y gynulleidfa.

Silhouette of Gruff Rhys performing at ClwstwrVerse

PROFIAD BYW: Refocus

Dangoswyd cwmni theatr arobryn Hijinx Refocus, cyfres o gynhyrchion ac adnoddau y maent wedi'u datblygu i gynorthwyo'r diwydiannau sgrîn i weithio'n fwy cynhwysol a chynyddu cynrychiolaeth o bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistig ar y sgrîn. Roedd y sesiwn hon yn rhagflas arbennig o'u hyfforddiant chwarae rôl drwy brofiad newydd, a gyflwynir gan Actorion Hijinx, ac arweinydd y prosiect Dan McGowan.

Professor Ruth McElroy introduces Hijinx actors and staff to demonstrate Refocus at ClwstwrVerse

ARDDANGOSIAD: Reel Reality

Dysgwch am leoliadau ffilm a theledu trwy ddefnyddio ap rhyngweithiol sy'n diffinio genre newydd gyda'r gwneuthurwr ffilmiau, Rebecca Hardy. Gall y rhai sy’n mwynhau ffilmiau ddod o hyd i ystod eang o gynnwys ac adeiladu set ffilm realiti estynedig trwy'r ap.

Rebecca Hardy holds speech bubble which reads Opportunity at ClwstwrVerse
© Emma Christopher

PROFIAD: RISE

Ymunwch â yello brick ar gyfer darllediad sain unigryw. Mae'r profiad digidol hwn yn annog gwrandawyr i ailgysylltu â nhw eu hunain a'r byd o'u cwmpas.

Professor Justin Lewis sits in a dimly lit room with headphones on to experience RISE

 

PROFIAD: IJPR

Yn rhan o'u prosiect Clwstwr, cynhaliodd IJPR ymchwil fanwl i chwaeth cynulleidfaoedd a’u barn ynghylch ehangder y cynnwys sydd ar gael ar draws yr holl wasanaethau ffrydio, o’r cynnwys prif ffrwd i'r niche. Ar hyn o bryd, mae IJPR yn defnyddio canlyniadau’r ymchwil i ddatblygu profiad pwrpasol, wedi’i guradu ac a yrrir gan ddata i guradu’r profiad gwylio; profiad sy’n cyd-fynd â dewisiadau unigol, a sydd hefyd yn creu cymuned er mwyn gallu rhannu argymhellion. Fel rhan o'u profiad, gwahoddodd IJPR fynychwyr yn y Clwstwrverse IJPR i ddod i drafod eu hoff sioeau teledu a sut y gwnaethant eu darganfod.

Ian Johnson sits in a chair at ClwstwrVerse hosting an IJPR discussion about television habits
© Emma Christopher

 

PRIF SIARADWR - Marcus Ryder MBE

Mae Marcus Ryder MBE yn awdurdod blaenllaw ym maes amrywiaeth yn y cyfryngau ac yn awdur cyhoeddiadau diweddar megis Black British Lives Matter: A Clarion Call For Equality and Access All Areas: The Diversity Manifesto for TV a ysgrifennwyd ar y cyd â Syr Lenny Henry.  Mae'n newyddiadurwr llwyddiannus a chanddo fwy na 25 mlynedd o brofiad ac yn Bennaeth Ymgyngoriaethau Allanol yng Nghanolfan Syr Lenny Henry ar gyfer Amrywiaeth yn y Cyfryngau.

Marcus Ryder MBE presents to audience in the Council Chamber at Cardiff City Hall for ClwstwrVerse

CYFLWYNIAD: Newyddion yng Nghymru: Gwersi ar ôl 2020

Roedd Dr David Dunkley Gyimah yn sgwrsio â Marcus Ryder MBE, a Pat Younge am sut i wneud y newyddion, a’r ystafell newyddion, yn fwy cynhwysol.

Dr David Dunkley Gyimah, Marcus Ryder MBE and Pat Younge sit and discuss News in Wales in Council Chamber at ClwstwrVerse

PRIF SIARADWR: Sian Doyle, S4C

Cyflwynodd Sian Doyle, Prif Swyddog Gweithredol S4C, sut mae darlledwyr yn mynd i’r afael ag arloesedd. Yna ymunodd dau brosiect Clwstwr â hi ar banel - Alec Spiteri o Triongl ac Aled Jones o Y Pod - i drafod y cyfleoedd a'r heriau posibl o gynhyrchu a dosbarthu cynnwys yn ddwyieithog. Cafodd y panel hwn ei gadeirio gan Gyd-Ymchwilydd Clwstwr, Dr Helen Davies o Brifysgol De Cymru.

Sian Doyle of S4C presents at ClwstwrVerse from the Council Chamber of City Hall

CYFLWYNIAD: Gwyrddio'r Sgrîn

Chris Hill, Rheolwr Materion Gwyrdd Ffilm Cymru Wales

Arddangoswyd y prosiectau cynaliadwyedd amgylcheddol a feithrinwyd gan Clwstwr a Chronfa Gronfa Her Cymru Werdd Clwstwr a Ffilm Cymru Wales. Mae Diwydiant Animeiddio Sero Net, Hybrid Narrative a Maximising Havoc yn mynd i’r afael â gwahanol agweddau o’r ymdrech tuag at sero net ym maes cynhyrchu teledu a ffilm, o ddewisiadau sylfaenol am fformat a thechnoleg, i fynd i’r afael â’r materion ymarferol fydd yn galluogi cwmnïau i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy ym mhob cam o'r broses gynhyrchu.

Tilly Ashton, Lauren Orme, Chris Buxton and Chris Hill present Greening the Screen sitting in Council Chamber at City Hall for ClwstwrVerse
© Jonathan Cane

 

RHYNGWEITHIOL: Arloesi gyda'r Diwydiannau Creadigol

Yr Athro Andrew Walters, Cyfarwyddwr Ymchwil, Adolygiadau Datblygu Perfformiad

Yn y sesiwn hon, myfyriodd yr Athro Andy Walters a chydweithwyr o PDR y profiad o Clwstwr ac yn ceisio datgelu'r heriau a'r llwyddiannau wrth ysgogi arloesedd yn y sectorau sgrin a newyddion. Roedd y myfyrdod hwn yn sôn am y defnydd o ymagwedd a arweinir gan ddylunio at Ymchwil a Datblygu, y cyfleoedd i wella cynaliadwyedd ac amrywiaeth, a rhai o’r argymhellion polisi sy’n targedu anghenion y sector hwn yn benodol.

Professor Andrew Walters of PDR sits in Council Chamber at City Hall presenting a workshop at ClwstwrVerse with three PDR colleagues in the background
© Jonathan Cane

 

PANEL MENTRAU HEB GYLLID ARIANNOL: Buddsoddi mewn ymchwil a datblygu creadigol: sut gall buddsoddwyr weithio'n dda gyda busnesau creadigol?

Rydym wedi gweld sut mae arian cyhoeddus mewn busnesau creadigol yn creu syniadau newydd pwerus yn Clwstwr, ond sut ydym yn ariannu'r cam nesaf? Os ydym am feithrin cynhyrchion a gwasanaethau o'r syniadau hyn neu hyd yn oed busnesau sydd â’r potensial i dyfu, mae angen i ni gynnwys cyllid a buddsoddwyr. Archwiliodd y panel hwn natur sut mae pobl sydd â syniadau ymchwil a datblygu creadigol yn dechrau gyda buddsoddwyr.

Ymunodd Gill Wildman (Upstarter) â grŵp o fuddsoddwyr i edrych ar sut mae pobl â syniadau Ymchwil a Datblygu creadigol yn dechrau arni gyda buddsoddwyr.

Gill Wildman hosts investor panel with three seated speakers
© Emma Christopher

 

Gweithdy Podledu Addasol

Mae BBC R&D wedi bod yn gweithio ar ailddyfeisio podledu yn y weledigaeth o gyfryngau sy’n seiliedig ar wrthrychau. Dychmygwch wneud podlediadau sy'n swnio'n wahanol yn seiliedig ar faint o'r gloch mae'ch cynulleidfa'n gwrando, ble maen nhw a’u hiaith ddiofyn. Yna dychmygwch hyd at 120 haen o sain gan gynnwys sain ddeuseiniol yn swyno’r gynulleidfa fel breuddwyd. Dechrau'r hyn y gall podledu addasol ei wneud yw hyn yn unig. Arweiniodd Ian Forrester (BBC R&D, Senior Firestarter) sesiwn sy’n eich galluogi i ddysgu popeth sydd ei angen arnoch i gychwyn eich taith eich hun mewn podledu addasol!

Ian Forrester of BBC with speech bubble which reads: Community driven innovation for everyone
© Emma Christopher

 

Cyflwyniad i BBC MakerBox   

Croeso i BBC MakerBox: lle i grewyr gysylltu, dysgu a chael mynediad at offer blaengar i adeiladu prosiectau newydd sbon. Roedd y sesiwn hon yn rhoi cipolwg manwl i chi ar rai o’r creadigaethau diweddaraf a wnaed gan ddefnyddio offer MakerBox, yn ogystal â’r offer eu hunain, gan gynnwys Dance Passion interactive (cyfuniad creadigol o ddawns a rhyngweithio) ac albwm sain ofodol Gruff Rhys, Seeking New Gods.  

 

BBC MakerBox presentation at ClwstwrVerse with two presenters at big screen
© Emma Christopher