Sector newyddion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol dros Gymru
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn newid sut rydym yn nodi, yn casglu, yn rhannu ac yn ymgysylltu â newyddion er mwyn gwella ansawdd y broses casglu newyddion, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chreu cenedl fwy cynhwysol, gwybodus a chynaliadwy.
Rydym yn cefnogi ymchwil a datblygu sy'n wirioneddol arloesol a thrawsnewidiol, ac rydym yn ariannu datblygiadau arloesol sy'n datblygu genres gwybodaeth newydd gan ganolbwyntio ar ddata a thechnolegau neu lwyfannau newydd sy'n gwella'r model busnes ar gyfer newyddion er budd y cyhoedd.
I gefnogi'r gwaith hwn, rydym ni'n meithrin prosiectau cydweithredol gyda diwydiant, y byd academaidd a chymunedau i ysbrydoli ffrydiau Ymchwil a Datblygu unigryw, beiddgar a chynhwysol.
Mae ein gwaith yn cefnogi gwerthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) Llywodraeth Cymru.
Ein nodau:
- Cefnogi'r gwaith o ymchwilio a datblygu ffyrdd arloesol a chynhwysol o weithio sy'n gwella'r model busnes ar gyfer newyddion er budd y cyhoedd.
- Gwneud ein strwythurau a'n prosesau mor amrywiol a hygyrch â phosibl.
- Sefydlu partneriaethau a chydweithrediadau amrywiol a chynhwysol.
Ein gweithgaredd:
- Rydym yn ariannu prosiectau ymchwil a datblygu arloesol sy'n canolbwyntio ar newyddion.
- Rydym am weithio gyda phobl o grwpiau difreintiedig a’r rhai mewn lleiafrifoedd.
Ein prosiectau sy'n canolbwyntio ar newyddion
Partneriaeth Her: Ystafell Newyddion y Bobl
Gan weithio gyda’r Swyddfa Newyddiaduraeth Ymchwiliol, Lleiafrifoedd Ethnig a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru (EYST) a Lankelly Chase, bydd y Bartneriaeth Her hon yn adeiladu pŵer cymunedol trwy newyddiaduraeth ac yn darparu piblinell newydd i berchnogaeth y cyfryngau trwy Fenter Ystafell Newyddion y Bobl.
Ein prosiectau sy'n canolbwyntio ar newyddion
Deallusrwydd Artiffisial yn yr Ystafell Newyddion: Datblygodd AMPLYFI allu gwe ddofn a all roi mwy o eglurder i newyddiadurwyr, gwybodaeth fanylach am ffynonellau a chywirdeb uwch o ddata na dulliau ymchwil traddodiadol.
CaseFinder: Gwnaeth Caerphilly Observer waith ymchwil a datblygu o ran meddalwedd a fydd yn galluogi newyddiadurwyr i chwilio gwybodaeth am y llysoedd yn fwy effeithiol.
Fotio am Fory: Gwnaeth Golwg waith ymchwil a datblygu o ran adran democratiaeth gwefan newyddion Golwg360 gan dargedu pobl ifanc o 16 oed sy'n pleidleisio am y tro cyntaf yn benodol.
Newyddion i Blant: Nod Lewnah Ltd: yw creu lle digidol, hardd i blant ddefnyddio straeon newyddion, gan gyfuno technegau adrodd straeon creadigol, ffurf hir gyda chyfyngiadau amser cylch newyddion cyflym.
Mapped Out: Bu Linus Harrison yn archwilio sut y gellir creu a chyflwyno newyddion i gynulleidfa fwy niwroamrywiol.
Adrodd y Newyddion trwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd: Mae Shirish Kulkarni yn ymchwilio i dechnegau adrodd straeon newydd a dychmygus ac yn eu creu a’u profi er mwyn dychmygu sut y gellid cyflwyno newyddion i wahanol gynulleidfaoedd.
Bydd Cyflwyno Hunaniaethau Unigol yn arloesi'r ffordd yr ydym yn rhannu straeon. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod pob unigolyn yn cael profiad cyfoethog ac yn herio camsyniadau a gwybodaeth anghywir am ddiwylliannau lleiafrifol.
Newyddion Ysgolion: Datblygodd Core lwyfan i gynnig gwasanaeth newyddion rheolaidd i ddisgyblion o fewn oriau ysgol.
The Democracy Box: Archwiliodd Yvonne Murphy ffyrdd newydd o greu cyfranogiad democrataidd gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer
Trauma Toggle: Mae Grace Quantock yn ystyried sut y gallwn greu profiad o newyddion sy'n fwy seiliedig ar drawma. Bydd Trauma Toggle yn galluogi defnyddwyr i ditradu iaith a deunydd sy’n cynhyrfu yn eu defnydd o’r cyfryngau.
Voice Wales Photo Agency: Gan ddatblygu talent o gefndiroedd amrywiol yng Nghymru, bydd ein hasiantaeth yn datblygu asiantaeth ffotograffau arloesol ar gyfer diwydiant newyddion Cymru.
Aelodau ein tîm sydd â diddordeb penodol mewn newyddion yw:
- Justin Lewis CyfarwyddwrClwstwr a Chyd-ymchwilydd
- David Dunkley Gyimah, Cyd-ymchwilydd
- Robin Moore, Tîm Rheoli
- Sally Griffith, Cynhyrchydd Clwstwr
Ein partneriaid sydd â diddordeb penodol mewn newyddion yw:
- Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd Cartref Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol (C4CJ)
- Prifysgol De Cymru – gwybodaeth am gyrsiau Newyddiaduraeth yma
- BBC Cymru
Caiff y prosiectau a ariennir eu cefnogi gan:
- Aelod o'n Tîm Cynhyrchwyr a'n Tîm Cyflawni
- Cyd-ymchwilydd o blith ein partneriaid prifysgol.
- Amser gyda'n partner ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd PDR sy’n ymgynghoriaeth ddylunio o safon fyd-eang.
- Mynediad i arbenigedd yn ein Tîm Rheoli.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gysylltu, uwchsgilio ac ysbrydoli'r garfan sy'n derbyn cyllid ac i egluro beth yw ymchwil a datblygu i ddarpar ymgeiswyr newydd. Dyma ein digwyddiadau sy’n ymwneud yn benodol â newyddion:
Arddangosfa arloesi: Ffyrdd newydd o wneud newyddion a gwybodaeth gyhoeddus
Cynhadledd Dyfodol Newyddiaduraeth, ar-lein - Medi 2021
Gyda’r Athro Justin Lewis yn cyflwyno, ymunodd arweinwyr prosiect Clwstwr Ymchwil a Datblygu ag ef i drafod Ffyrdd newydd o adrodd straeon newyddion (Shirish Kulkarni), Deallusrwydd Artiffisial yn yr ystafell newyddion (Lucy Young, AMPLYFI), Newyddion plant: (Hannah Vaughan Jones a Lewis), The Democracy Box (Yvonne Murphy)
Newyddion a Chamwybodaeth
Ar-lein - Ebrill 2021
Bu Clwstwr yn croesawu’r Athro Natalie Fenton, Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Cyfryngau Byd-eang a Democratiaeth a’r academydd blaenllaw, i drafod camwybodaeth mewn newyddion. Ymunwyd â hi gan Gyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis (link), i drafod enghreifftiau o sut mae camwybodaeth yn gweithio, o ble mae'n dod a sut y gallem ni wella dealltwriaeth ohoni ymhlith y cyhoedd.
Wedi’i chyflwyno gan Sally Griffith, Cynhyrchydd Clwstwr, yn ystod y sesiwn hon trafodwyd:
- Y syniad o newyddion prif ffrwd ddiduedd
- Camliwio fel camwybodaeth a sut mae hyn yn bwydo rhagfarn
- Ailadrodd straeon newyddion - ac absenoldeb eraill
Tuag at Sector Newyddion Cynhwysol
Ar-lein - Tachwedd 2020
Cymerodd arweinwyr prosiect Clwstwr, Shirish Kulkarni, Grace Quantock, Linus Harrison a chadeirydd y panel Francesa Sobande ran yn y sesiwn banel hon yng nghynhadledd Beyond.
Sut y gallai technoleg a chwmnïau creadigol arloesi newyddion?
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Dinasoedd Digidol y BBC - Ebrill 2019
Credwn na fydd yr heriau mewn newyddion – newyddion ffug a gostyngiad o ran defnydd – yn cael eu datrys gan bobl mewn newyddion. Daethom â chwmnïau technoleg a chreadigol at ei gilydd i roi eu mewnwelediad a'u hoffer o'r fasnach at yr heriau hyn mewn ffyrdd newydd, arloesol. Yn ein cefnogi yn y digwyddiad hwn roedd Robin Moore, Pennaeth Arloesi BBC Cymru, a chafodd ei gyflwyno gan sefydliadau fel AMPLYFI.
Yr Heriau Mwyaf sy'n Wynebu Newyddiaduraeth a Rôl Arloesi. Claire Wardle, First Draft News
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Dinasoedd Digidol y BBC - Mawrth 2020
Croesawyd Cynghorydd Rhyngwladol Clwstwr, Claire Wardle - Pennaeth First Draft News, i arwain sesiwn ar yr heriau sy'n wynebu newyddion heddiw ac ymunodd sefydliadau cyfryngau blaenllaw yng Nghymru â ni i drafod effaith gynyddol camwybodaeth/twyllwybodaeth/camhysbysu mewn newyddion.
Os hoffech chi fod yn rhan o'r gwaith hwn, cysylltwch â ni.
Caiff y dudalen hon ei diweddaru mor rheolaidd â phosibl. Fe wyddom fod pethau'n symud yn gyflym, felly efallai y gwelwch ddolenni yma sydd wedi dyddio, ac iaith sydd angen ei diweddaru. Rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu eu dileu neu eu diweddaru. Os oes unrhyw un ar goll yma, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ein gorau i'w cynnwys.
Os oes addasiadau rhesymol eraill y gallwn eu gwneud i wella'ch profiad o'r wefan, cysylltwch â ni.
Sally Griffith yw'r arweinydd ar newyddion a chynhwysiant i Clwstwr